Evan LeonardEVANSLen Yn sydyn ar nos Fercher 25ain o Awst 2021 yn 77 mlwydd oed, yn ysbyty Glangwili, hunodd Len, Gelli Aur, Ffostrasol. Priod annwyl a thriw Dilys, tad addfwyn a chefnogol Nia, tadcu cariadus Cian, Mali a Mared, tad yng nghyfraith diffuant Stephen, brawd ffyddlon Ken a'r diweddar Mali, a chyfaill i lawer. Angladd hollol breifat. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at elusen Ymchwil Canser Cymru trwy law Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, SA44 4XB. Ffôn - 01545 590254
Keep me informed of updates